Mae synhwyrydd lidar yn defnyddio laser i fesur y pellter rhwng yr awyren a’r tir. Drwy gofnodi miliynau o’r mesuriadau hyn mi allwn greu cofnod o uchderau cymharol wyneb y tir. Mae’r laser hefyd yn adlewyrchu oddi ar goed ac adeiladau, ceir, gwartheg a henebion cwrsws – mae unrhyw beth sy’n bresennol yn y dirwedd ar adeg yr arolwg yn cael ei gofnodi. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r modelau gael eu dehongli gan bobl i wneud synnwyr o’r wybodaeth sydd ynddynt.
Mae’r modelau Lidar wedi’u prosesu’n gyfres o ddelweddau sy’n ein helpu i wneud synnwyr o’r topograffi. Disgrifir y delweddau a ddefnyddiwyd yn y porth isod.
Cysgodion llethr aml gyfeiriad o’r model arwyneb (sy’n cynnwys yr holl lystyfiant ac adeiladau) a’r model tirwedd (dim ond wyneb y tir gyda’r holl lystyfiant a’r adeiladau wedi’u dileu’n ddigidol). Mae cysgod llethr aml gyfeiriad yn cyfuno’r goleuni wedi’i fodelu o dri chyfeiriad yr haul i wneud delwedd lliw i asesu newidiadau mawr yn y dirwedd fel bryniau a dyffrynnoedd (a adwaenir fel macro-dopograffi) a newidiadau bychain a all fod yn arwydd o weithgarwch pobl dros y milenia (a adwaenir fel micro-dopograffi).
Mae Model Tirwedd Leol (LRM) o’r dirwedd yn dangos newidiadau bach mewn delwedd glir lle mae nodweddion positif (cloddiau, terfynau) yn wyn a nodweddion negyddol (ffosydd, pydewau) yn dywyll. Mae’r ddelwedd hon yn arbennig o addas i adnabod nodweddion archeolegol cynnil.
Technoleg Lidar
Mae Lidar (Canfod a Mesur Golau) wedi’i seilio ar yr egwyddor o fesur pellter drwy’r buanedd a’r dwyster a gofnodwyd ar gyfer pwls o olau sy’n cael ei saethu o gyfarpar synhwyro ac sy’n cyrraedd targed, cyn anfon signal yn ôl.


Sganio o’r awyr
Mae systemau Lidar o’r Awyr yn ddibynnol ar laserau i fesur pellter o’r synhwyrydd i’r targed, yn yr achos hwn y ddaear ac unrhyw nodweddion sydd arno. Mae synwyryddion Lidar gan amlaf yn gweithredu drwy sganio pelydr laser o ochr i ochr wrth i awyren hedfan uwchben ardal yr arolwg a chofnodi’r adlewyrchiadau. Mae cwmwl o bwyntiau uchder yn cael ei greu o’r adlewyrchiadau hyn a gall wedyn gael ei droi’n fodelau 3D o’r dirwedd.
Systemau Lleoli Byd-eang
Er bod systemau Lidar wedi’u datblygu yn yr 1960au, y datblygiadau pwysig mewn Systemau Lleoli Byd-eang yn niwedd yr 1980au sydd wedi galluogi creu’r modelau manwl iawn o wyneb y tir sy’n gyfarwydd inni heddiw.

Yn y DU, Asiantaeth yr Amgylchedd a gychwynnodd y defnydd cyffredinol o Lidar topograffig o 1996 ymlaen i gynhyrchu mapiau tirwedd i asesu’r perygl o lifogydd. Yn 2024, cwblhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu harolwg cyflawn o Gymru gydag eglurder 1m, sydd wedi bod yn adnodd gwych i ddeall yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Er ei bod yn hysbys ac yn ddefnyddiol mewn ardaloedd coediog, gall Lidar hefyd helpu archeolegwyr i adnabod gwrthgloddiau a nodweddion eraill a fyddai’n anodd eu canfod fel arall mewn tir agored.


Er mwyn gallu delweddu’r data’n rhwydd, mae arwyneb yn cael ei greu ac y gellir ei fodelu a’i gysgodi fel delwedd raster. Mae’r delweddau raster mwyaf cyffredin yn amrywio’n seiliedig ar y pwynt lle mae’r pwls cael ei ddychwelyd i’r synhwyrydd ac mae’r canlyniad a gynhyrchir yn cael ei brosesu. Y Model Arwyneb Digidol (DSM) yw dychweliad cyntaf neu bwynt uchaf y pwls a ddychwelir, sydd fel arfer yn dangos y dirwedd gyfan, gan gynnwys arwyneb y tir mewn mannau agored, llystyfiant, canopi coetiroedd ac adeiladau. Mae’r Model Tirwedd Ddigidol (DTM) yn cael ei greu drwy hidlo’r set ddata lidar i gael gwared ar bopeth a ddychwelir heblaw’r tir fel y rhai sy’n cael eu hadlewyrchu gan lystyfiant ac adeiladau. Mae’r hidlo hwn yn galluogi delweddu nodweddion o dan ganopi’r llystyfiant.
Dysgwch ragor!
I ddysgu mwy am sut y gellir defnyddio lidar i ddeall y dirwedd ac i adnabod nodweddion archeolegol ymunwch â gwirfoddolwyr porth Arfordir Penfro ar ein cwrs hyfforddi ar-lein.
Cymerwch ran
Dewch yn ‘wyddonydd ddinesydd’ a helpwch ni i ddarganfod, deall, a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, drwy archwilio’r mapio Lidar a chanfod safleoedd archeolegol newydd a chyffrous.