Y broses
I ddefnyddio’r Porth, rhaid i chi gofrestru’n gyntaf i greu cyfrif. Ar ôl mewngofnodi, mi allwch ddilyn y cwrs hyfforddi ar-lein ar gyfer gwirfoddolwyr. Pan fyddwch wedi cwblhau’r cwrs hyfforddi mi fyddwch yn barod i fapio nodweddion ym mhorth Arfordir Penfro ac mi fyddwch yn cael mynediad yn awtomatig at fap Lidar Arfordir Penfro.
O bryd i’w gilydd, mi fydd y Parc Cenedlaethol yn cynnal cyfarfodydd i sgwrsio â gwirfoddolwyr ac mi fyddai’n braf pe baech yn ymuno â’r gymuned i drafod y nodweddion a ganfuwyd gennych.

Pan fyddwch yn cofrestru i ymuno â’n tîm o wirfoddolwyr mi fyddwch yn cael mynediad at y cwrs hyfforddi ar-lein a rhaid i chi gwblhau’r cwrs hwn cyn y cewch fynediad at y porth Lidar.
Mae’r hyfforddiant yn ymdrin â phopeth fydd angen i chi ei wybod, o beth yw Lidar a sut mae’n gweithio, sut mae’n cael ei ddefnyddio i ddeall y dirwedd hanesyddol a pha fath o nodweddion y gallwn eu cofnodi. Ceir hefyd adran “sut i…” gyda fideos sy’n dangos sut mae defnyddio Porth Arfordir Penfro i fapio nodweddion.

O bryd i’w gilydd, mi fydd y Parc Cenedlaethol yn cynnal cyfarfodydd lle gall gwirfoddolwyr ateb cwestiynau a thrafod y nodweddion sydd wedi’u darganfod.
Bydd ein cwrs ar-lein i wirfoddolwyr yn eich tywys drwy bopeth mae angen i chi wybod

Cam 3
Dechrau mapio nodweddion yn y porth

Cam 4
Ymuno â chymuned gwirfoddolwyr yn ein sesiynau ar-lein