Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi sut bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol wrth ddefnyddio Porth Lidar Arfordir Penfro drwy ein gwefan: https://www.lidar.cymru/arfordirpenfro
Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut rydyn ni’n gwneud hyn ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu. Gall yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch ein gwefan yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.
Pwy ydyn ni
Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei greu fel awdurdod lleol diben arbennig annibynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf).
Gallwch gael gwybod mwy fan hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu eisiau mwy o fanylion am sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.
01646 624800
Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn:
Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cofrestru fel Rheolwr Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Rhif cofrestru: Z6910336.
Sut mae’r gyfraith yn eich diogelu
Mae eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu gan y gyfraith ac mae’r adran hon yn esbonio sut mae hynny’n gweithio.
Rydyn ni’n amlinellu sut rydyn ni’n bodloni mesurau atebolrwydd yn y gyfraith a sut rydyn ni’n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein Polisi Diogelu Data.
Y data rydyn ni’n ei gasglu
Y data rydyn ni’n ei gasglu
Yr unig ddata personol a gasglwn amdanoch chi yw pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu pan fyddwch yn cael mynediad at ein Porth.
Data rydyn ni’n ei gasglu pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau:
- Proffil ar-lein a data defnydd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cwcis pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan.
- Eich cyfeiriad e-bost i gael mynediad i’n Porth ac i fewngofnodi.
- Eich enw a’ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn defnyddio ein ffurflen ‘cysylltwch â ni’ ar ein gwefan.
Rhesymau priodol (sail gyfreithlon) dros ddefnyddio eich data personol
Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio gwybodaeth bersonol dim ond os oes gennym reswm priodol (sail gyfreithlon) i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth bersonol ag eraill y tu allan i’rAwdurdod.
- At ddibenion eich defnydd o’n Porth, y sail gyfreithlon yw eich caniatâd.
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Cysylltwch â ni os ydych am wneud hynny yn info@pembrokeshirecoast.org.uk neu’r tîm perthnasol o fewn yr Awdurdod y rhoesoch ganiatâd iddo.
Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu gwybodaeth neu wasanaethau penodol i chi. Os felly, byddwn yn dweud wrthych.
Gyda phwy rydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth bersonol
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn fewnol er mwyn ymateb i’ch cais cyswllt neu gyda’r gwesteiwyr trydydd parti sy’n rheoli ein gwefan a’n Porth.
Am ba mor hir rydyn ni’n cadw eich gwybodaeth
Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau neu ar ffeil am gyhyd ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu lle bo’n berthnasol, pan fyddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.
Anfon data y tu allan i’r DU
Nid ydym yn trosglwyddo data personol y tu allan i’r DU at ddibenion cael mynediad i’n gwefan neu’n Porth.
16 neu’n iau
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd plant 16 oed neu’n iau. Os ydych yn 16 oed neu’n iau‚ gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.
Cwcis
Fel y rhan fwyaf o’r gwasanaethau ar-lein, mae ein gwefan yn defnyddio cwcis parti cyntaf a thrydydd parti at nifer o ddibenion. Mae’r cwcis parti cyntaf yn angenrheidiol gan fwyaf er mwyn i’r wefan weithio yn y ffordd iawn, ac nid ydynt yn casglu dim o’ch data personol adnabyddadwy.
Mae’r cwcis trydydd parti a ddefnyddir ar ein gwefan yn cael eu defnyddio’n bennaf i ddeall sut mae’r wefan yn perfformio, sut rydych chi’n rhyngweithio â’n gwefan, cadw ein gwasanaethau’n ddiogel, darparu hysbysebion sy’n berthnasol i chi, a’r cyfan er mwyn cynnig grofiad gwell i chi fel defnyddiwr a helpu i gyflymu’r ffordd y byddwch yn rhyngweithio â’n gwefan yn y dyfodol.
Gallwch reoli eich dewisiadau cwcis drwy glicio ar y botwm “Gosodiadau cwcis” a galluogi neu analluogi’r categorïau cwcis ar y ffenest naid yn unol â’ch dewisiadau. Fel arall, mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’r porwr. Ceir mwy o wybodaeth yn
Ceir mwy o wybodaeth yn Cookie Notice
Eich hawliau
O dan reoliadau diogelu data mae gennych yr hawliau canlynol:
- Yr hawl i gael gwybod
- Yr hawl i gael mynediad
- Yr hawl i gywiro
- Yr hawl i ddileu
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl i gludadwyedd data
- Yr hawl i wrthwynebu
- Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.The right to be informed
Mae sail gyfreithlon prosesu yn dylanwadu ar ba hawliau sydd ar gael i’r unigolyn.
Os oes gennych gyfrif i gael mynediad i’n Porth neu os ydych chi wedi gadael sylwadau, gallwch ofyn am gael ffeil wedi’i hallforio o’r data personol sydd gennym amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych chi wedi’i roi i ni.
Gall pob defnyddiwr weld neu ddileu eu gwybodaeth bersonol unrhyw bryd (ac eithrio’r ffaith na allant newid eu henw defnyddiwr).
Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n rhaid i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.
Sut i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol
Gallwch gael mynediad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:
Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Os oes angen cymorth arnoch chi cysylltwch â: info@pembrokeshirecoast.org.uk,
Ffôn: 01646 624800.
Sut i gwyno
Rhowch wybod i ni os ydych yn anhapus gyda’r ffordd rydyn ni wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Cysylltwch â’n swyddog diogelu data ar DPO@pembrokeshirecoast.org.uk neu
01646 624800
Yn ogystal, mae gennych hawl i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch weld ar eu gwefan sut i riportio pryder. Rhif y llinell gymorth yw 0303 123 1113.