Telerau Defnyddio

Er mwyn cofrestru am gyfrif a chael mynediad at y data a’r cynnwys ar y wefan hon, rhaid i chi gytuno y byddwch yn cadw at y meini prawf canlynol:

Rwy’n ymrwymo i ymddwyn yn gyfrifol â pharch tuag at eraill o ran unrhyw iaith a ddefnyddir neu sylwadau a wneir ar y wefan hon.

© PTS Consultancy sydd â’r deunyddiau hyfforddi
ar-lein a ddarperir, ac ni ddylid eu copïo na’u lledaenu heb ganiatâd deiliad yr hawlfraint ymlaen llaw.

Ni fyddaf yn atgynhyrchu nac yn cyhoeddi delweddau sy’n deillio o’r data (gan gynnwys gwaith printiedig a chyfryngau cymdeithasol) heb gydnabod deiliad yr hawlfraint berthnasol a defnyddio’r cydnabyddiaethau y cytunwyd arnynt:
Data Lidar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro © Cedwir pob hawl. Delweddwyd gan PTS Consultancy
Ni fyddaf yn atgynhyrchu nac yn cyhoeddi mapiau cefndir yr Arolwg Ordnans na data deilliannol heb ddefnyddio’r cydnabyddiaethau priodol (a restrir isod)

Ni fyddaf yn defnyddio unrhyw ddata ar y wefan hon at ddibenion masnachol

Ni fyddaf yn tresmasu ar dir preifat heb ganiatâd penodol y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr fel rhan o unrhyw ymchwiliad neu weithgaredd sy’n seiliedig ar y data a gynhwysir yn y wefan hon
Byddaf yn cadw at y Cod Cefn Gwlad wrth ymchwilio i unrhyw safleoedd yn y cae (e.e. gadael giatiau ac eiddo fel y’u canfuwyd, sicrhau nad yw cnydau’n  cael eu difrodi, peidio ag aflonyddu ar fywyd gwyllt, etc.)

Ni fyddaf yn gwneud gwaith canfod metel, cloddio nac yn arolygu unrhyw safle heb ganiatâd penodol a chaniatâd y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr ac unrhyw sefydliad perthnasol arall lle mae angen caniatâd a thrwyddedau ymlaen llaw (Sylwer bod gan unrhyw Heneb Gofrestredig, eiddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) reoliadau llym yn benodol a bod angen caniatâd ysgrifenedig yr awdurdodau statudol perthnasol yn ogystal â’r tirfeddiannwr ar gyfer gwaith maes posib).

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r defnydd o’r data hwn, gan gynnwys ceisiadau at ddibenion masnachol, at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cydnabyddiaeth Hawlfraint ychwanegol yr Arolwg Ordnans os ydych yn atgynhyrchu delweddau gyda Mapiau Arolwg Ordnans neu ddeunydd deilliannol

Testun safonol ar gyfer mapiau graffeg A4 neu fwy (>625cm2) – deunydd OS yn unig:

Atgynhyrchir y map hwn o ddeunydd yr Arolwg Ordnans gyda chaniatâd yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb awdurdod yn torri hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. 100019238 2020

Testun safonol ar gyfer mapiau graffig A4 neu fwy (>625cm2) – nid deunydd yr AO na data deilliannol yn unig:

Mae’r map hwn yn seiliedig ar ddeunydd yr Arolwg Ordnans gyda chaniatâd yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb awdurdod yn torri hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. 100019238 2020

Testun byr safonol ar gyfer mapiau graffeg A4 neu lai (<625cm2): © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl 100019238 2020 © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000810561 2025


Arfordir Penfro Lidar Portal