Drwy archwilio mapio Lidar 3D, mi allwch ganfod strwythurau sydd wedi’u gwneud gan bobl, gweld ystod lawn y gorchudd llystyfiant, a deall siâp y dirwedd yn ei chyfanrwydd. Mi allwch ddileu data’r arwyneb i ddatgelu safleoedd archeolegol sy’n angof. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a gwarchod y dirwedd hanesyddol.
Ym mis Mawrth 2023, cafwyd Lidar eglurder uchel ar gyfer 345 km2 o ran ogleddol y Parc Cenedlaethol. Mae gan y dirwedd hon hanes cyfoethog o weithgarwch dynol sy’n ymestyn yn ôl miloedd o flynyddoedd. Gall Lidar helpu i ddatgelu ac olrhain y stori hon.
Mae synhwyrydd lidar yn defnyddio laser i fesur y pellter rhwng yr awyren a’r ddaear. Trwy gofnodi miliynau o’r mesuriadau hyn gallwn greu cofnod o uchder cymharol arwyneb y ddaear. Mae’r laser hefyd yn adlewyrchu oddi ar goed ac adeiladau, ceir, buchod a charneddau – mae unrhyw beth a oedd yn bresennol yn y dirwedd ar adeg yr arolwg yn cael ei gofnodi. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r modelau gael eu dehongli gan fodau dynol i wneud synnwyr o’r wybodaeth sydd ynddynt.



Darganfod mwy!
I ddarganfod mwy am sut y gellir defnyddio lidar i ddeall y dirwedd ac adnabod nodweddion archeolegol ymunwch â gwirfoddolwyr porth Arfordir Penfro i ddilyn ein cwrs hyfforddi ar-lein.
Pam ei fod
yn bwysig?
Mae gorchudd llystyfiant sy’n cynyddu’n gyflym yn cuddio safleoedd sydd wedi’u cofnodi a safleoedd nas cofnodwyd. Mae’r prosiect hwn yn ein helpu i nodi, monitro’r cyflwr a rheoli olion archeolegol newydd a phresennol yn well. Gall fod yn anodd gwerthfawrogi archeoleg caeau ac aneddiadau hynafol ar lawr gwlad. Gall Lidar fod o gymorth mawr yn ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o’r archaeoleg hon trwy lefelau anhygoel o fanylder a modelu 3D cadarn ac arloesol.
Cymerwch ran
Dewch yn ‘wyddonydd ddinesydd’ a helpwch ni i ddarganfod, deall, a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, drwy archwilio’r mapio Lidar a chanfod safleoedd archeolegol newydd a chyffrous.